Math | ardal an-fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Cumbria |
Prifddinas | Kendal |
Poblogaeth | 104,532 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cumbria (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 1,533.5713 km² |
Cyfesurynnau | 54.312°N 2.88°W |
Cod SYG | E07000031 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of South Lakeland District Council |
Ardal an-fetropolitan yn ne Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, oedd Ardal De Lakeland (Saesneg: South Lakeland District). Roedd yn cynnwys llawer o Ardal y Llynnoedd yn ogystal â rhannau gogledd-orllewinol Dyffrynnoedd Swydd Efrog. Roedd yn cynnwys trefi Ambleside, Broughton-in-Furness, Grange-over-Sands, Kendal, Kirkby Lonsdale, Sedbergh, Ulverston a Windermere. Pencadlys yr awdurdod oedd Kendal.
Roedd gan yr ardal arwynebedd o 1,534 km², gyda 104,321 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2017.[1]
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Fe'i ddiddymwyd ar 1 Ebrill 2023 pan gafodd ei chyfuno â Bwrdeistref Barrow-in-Furness ac Ardal Eden i greu awdurdod unedol newydd Westmorland a Furness.